O gwasgerwch dew gym(m)ylau

(Taer ddymuniad am wir ddatguddiad)
O gwasgerwch dew gymylau,
  I'r addewid rhoddwch le,
Nid i'r ddaear yma i'm ganwyd,
  Trag'wyddoldeb yw fy lle:
    'Nol tywyllwch, &c.
  Daw o'r diwedd foreu wawr.

Y mae gwedd dy wyneb grasol,
  Yn rhagori llawer iawn,
Ar bob peth a welodd llygaid,
  Ar hyd wyneb daear lawn;
    Rhosyn Saron, &c.
  Ti yw tegwch
        nef y nef.

Boed fy nghalon i ti'n deml
  Arglwydd aros yno byth,
Ac o fewn fy ysbryd egwan,
  Gwna dy drigfa būr ddilyth:
    Gwledd wastadol, &c.
  Fydd dy bresenoldeb im'.

O na welwn ddydd yn gwawrio,
  Bore hyfryd tawel iawn,
Haul yn codi heb un cwmwl,
  Felly'n machlud y prydnawn:
    Un diwrnod, &c.
  Goleu eglur boed fy oes.

           - - - - -

O gwasgerwch dew gymmylau,
  I'r addewid rhoddwch le;
Nid i'r ddaear yma i'm ganwyd,
  Trag'wyddoldeb yw fy lle,
    'N ol tywyllwch, &c.
  Daw o'r diwedd fore wawr.

Mi ddymunwn wel'd yn rhwygo,
  Holl gymmylau mawr y nef,
I bechadur weled gronyn,
  O ogoniant hyfryd ef:
    O! datguddia, &c.
  Degwch gwedd
        dy wyneb bryd.

Mae dy wedd yn drech na byddin,
  O elynion mawr eu grym;
Nid oes yn y nef na'r ddaear,
  Saif o flaen dy wyneb ddim;
    Gair o'th enau, &c.
  A wna'r dywyll
        nos yn ddydd.

Pa'm yr ofnai meiau mawrion?
  Trymach ydyw marwol glwy';
Mwy yw gair o
      enau f'Arglwydd,
  Na myrddiynau o honynt hwy;
    Goruchafiaeth, &c.
  Fydd yn hyfryd pan y del.

Y mae hiraeth yn fy nghalon,
  Heddyw am gael gwel'd y dydd,
Gaffo fy nghadwynau eu torri,
  A fy enaid fyn'd yn rhydd;
    Yn lle rhyfel, &c.
  Dim ond sŵn caniadau hedd.
- - - - -

(Golwg ar y nef)

O gwasgerwch dew gymylau,
  I'r addewid rhoddwch le;
Nid i'r ddaear hon y'm ganwyd,
  Tragwyddoldeb yw fy lle:
    Ffoed y t'w'llwch, &c.
  Doed o'r diwedd hyfryd wawr.

Mi ddymunwn wel'd yn rhwygo
  Dewion ddu gymylau'r nef,
Fel y gallwyf weled gronyn
  O'i ogoniant hyfryd Ef:
    O datguddia, &c.
  Degwch llon dy wyneb-pryd.
William Williams 1717-91

[Mesur: 878747]

gwelir:
  Boed fy nghalon iti'n dem(e)l
  Croesau trymion sydd yn felus
  Gweld dy gariad anorchfygol
  Iesu Iesu wyt yn ddigon
  Mae fy enaid am ehedeg
  Mi ddymunwn wel'd yn rhwygo
  Nid o'r ddaear mae fy mhleser
  Nid oes dim erioed a welwyd
  O na ddôi'r amseroedd bellach
  'Rwi'n dy garu er nas gwelais
  Y mae gwedd dy wyneb grasol

(An intense wish for a true revelation)
O disperse ye thick clouds,
  To the promise give ye a place,
Not for this earth am I born,
  Eternity is my place:
    After darkness, &c.
  The morning dawn shall come at last.

The countenance of thy gracious face,
  Is very much superior,
To everything eyes saw,
  Across the face of the full earth;
    The Rose of Sharon, &c.
  Thou art the fairness of
        the heaven of heaven.

May my heart be to thee a temple
  Lord, stay there forever,
And within my weak spirit,
  Make thy pure, unfailing dwelling:
    A constant feast, &c.
  Shall thy presence be to me.

O that I would see the day dawning,
  A delightful, very quiet morning,
Sun rising without any cloud,
  Thus setting in the evening:
    One day, &c.
  Of clear light may my lifetime be.

                - - - - -

Oh that ye would disperse, thick clouds!
  To the promise give a place;
Not to the earth here am I born,
  Eternity is my place,
    After darkness, etc.
  Shall come at last the morning dawn.

I would wish to see tearing,
  All the great clouds of heaven,
For a sinner to see a grain,
  Of his delightful glory:
    Oh reveal, etc.
  The fairness of the
        countenance of thy face.

Thy face is mightier than an army,
  Of enemies of great power;
There is not in the heaven nor the earth,
  Anything that will stand before thy face;
    A word from thy mouth, etc.
  Shall make the darkness
        of night into day.

Why would one fear great faults?
  Weightier is a mortal wound;
Greater is a word from
      the mouth of my Lord,
  Than myriads of them;
    Conquest, etc.
  Will be delightful when it comes.

There is longing in my heart,
  Today to get to see the day,
My chains get broken,
  And my soul goes free;
    In place of war, etc.
  Nothing but the sound of songs of peace.
- - - - -

(A view over heaven)

Oh that ye would disperse, thick clouds!
  To the promise give a place;
Not for this earth are we born,
  Eternity is my place:
    Let the darkness flee, etc.
  Let at last the delightful dawn come.

I would wish to see tearing
  The thick, black clouds of heaven,
Thus may I be able to see a grain
  Of His delightful glory:
    O reveal, etc.
  The cheerful fairness of thy countenance.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~